Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 14
Chwefror 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
(60 munud)
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dysgu Digidol mewn Addysg Bellach
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Ymateb Dyngarol i Wcráin
(30 munud)
7 Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 - TYNNWYD YN ÔL
(0 munud)
NDM8202 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
8 Dadl: Setliad yr Heddlu 2023-24
(30 munud)
NDM8201 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2023-24 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2023.
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 15 Chwefror 2023